Croeso i Gylch Meithrin Rhiwbeina. Rydym yn feithrinfa cyfrwng Cymraeg, wedi ein lleoli yn Rhiwbeina ac yn gwasanaethu gogledd Caerdydd, yn derbyn plant 2-4 oed. Wedi’i sefydlu ym 1959, rydym wedi adeiladu enw da am ddarparu gofal ac addysg o ansawdd uchel i’n disgyblion, mae ein poblogrwydd yn parhau hyd heddiw, gyda rhestr aros hir bob blwyddyn. Tra ein bod yn lleoliad cyfrwng Cymraeg rydym yn croesawu’n gynnes plant sy’n siarad Cymraeg yn rhugl i’r rhai sy’n cael eu cyflwyniadau cyntaf i’r iaith.

Ymfalchïwn mewn adeiladu perthynas gref gyda’r plant a’r rhieni/gofalwyr ac mae gennym bwyllgor cwbl gefnogol sy’n gweithio ochr yn ochr â’r staff i gyflwyno’r profiadau a’r addysg orau bosibl i’n disgyblion. Rydym yn dilyn Cwricwlwm i Gymru ac wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yn gweithredu o dan y Mudiad Meithrin.

Rydym wedi cyflawni Gwobr Byrbryd Iach Safon Aur Caerdydd a’r Fro ac mae gennym sgôr Hylendid Bwyd o 5. Rydym yn Elusen gofrestredig ac felly rydym yn croesawu cefnogaeth codi arian gan rieni/gofalwyr.

Trwy ddilyn pedwar diben Cwricwlwm i Gymru, rydym yn cynnig ystod o weithgareddau ym mhob maes dysgu. Rydym yn dilyn dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn, gan sicrhau bod pob unigolyn wrth galon eu taith ddysgu gyda ni ac yn allweddol i’n cynllunio. Mae lles y plant yn hollbwysig ac rydym yn ymgymryd â llawer o weithgareddau i gefnogi hyn ac i adeiladu eu hunanhyder, annibyniaeth a sgiliau cymdeithasol. Yn ystod ein sesiynau mae gennym amrywiaeth o weithgareddau unigol, bach neu fawr ynghyd ag Amser Stori, Amser Canu, Amser Byrbryd, Amser Cylch, chwarae rôl a chwarae rhydd. Mae themâu a gweithgareddau'n amrywio bob wythnos yn dibynnu ar y dathliadau calendr a'n thema ffocws. Rydym yn ffodus iawn i gael gardd fawr, ddiogel sydd ar gael bob dydd lle gall plant gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau o feicio i helfa chwilod. Rydym hefyd mewn lleoliad delfrydol i ymweld â chyfleusterau lleol fel y llyfrgell, parc a chaffi.

Oriau / Ffioedd:

Rydym yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am-11.30am. (Amser tymor yn unig).

Ar hyn o bryd, ein ffioedd fesul sesiwn yw £16 a 50c am fyrbryd iach.

Adolygir y ffioedd yn flynyddol.

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu am hyd at 17 awr a hanner yr wythnos (o’r tymor ar ol i’ch plentyn droi’n 3 oed) - cofrestrwch yma

Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth

  • Sarah Nickson

    Arweinydd

  • Angharad Jowers

    Arweinydd

  • Maria King

    Cynorthwy-ydd Meithrin

    .

Cysylltwch â ni

ebost: cylchmeithrinrhiwbeina@gmail.com

Lleoliad:

Cylch Meithrin Rhiwbeina,

Bethel Chapel Festri,

Maes y Deri,

Rhiwbeina,

Caerdydd,

CF14 6JJ